SL(5)227 - Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sy’n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 19 Tachwedd 2008 ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol.

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn angenrheidiol er mwyn gweithredu Rheoliad y Cyngor (UE) 2017/997 dyddiedig 8 Mehefin 2017 sy’n diwygio Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y nodwedd peryglus HP 14 ‘Ecotocsig’.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir dim pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodir dim pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu ac yn gorfodi rhwymedigaethau’r UE mewn perthynas â gwastraff peryglus ac maent yn angenrheidiol i ddiweddaru dull yr UE ar gyfer gosod gwastraff yn y dosbarth gwastraff ‘ecotocsig’. Felly, bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

 

Mae’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod "ansawdd amgylcheddol – cemegau” yn faes polisi sy’n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau cymal 15 o dan Fil yr UE (Ymadael). Felly, mae’r gyfraith sy’n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE sy’n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu sefydlu.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Mehefin 2018